Amdanom Ni

YE logo

Rydyn ni yn Young Enterprise yn credu bod potensial pobl ifanc y Deyrnas Unedig yn ddi-ben-draw, ac nad yw addysg academaidd yn ddigon ar ei phen ei hun. A ninnau’n elusen genedlaethol, rydyn ni’n ysgogi pobl ifanc i lwyddo wrth newid byd gwaith trwy roi’r sgiliau gwaith, y wybodaeth a’r hyder y mae arnynt eu hangen.

Erbyn diwedd 2023, roedd 1.37 miliwn o bobl ifanc yn ymwneud â rhaglenni Young Enterprise, gan gymryd rhan mewn 1.65 miliwn o gyfleoedd ariannol a menter.

Credwn mai’r ffordd orau o ddysgu sgiliau hanfodol bywyd, fel rheoli arian, gwaith tîm a chyfathrebu, yw eu rhoi ar waith. Mae ein rhaglenni’n cynnwys gweithgareddau dysgu ymarferol a luniwyd i’w cynnal mewn cyd-destunau bywyd go iawn. Ein nod yw cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu ffordd fentrus o feddwl a chynyddu eu galluoedd busnes ac ariannol, ar yr un pryd â chodi dyheadau a datblygu nodau gyrfa a pharodrwydd ar gyfer gwaith.

Dysgwch fwy am Young Enterprise yma: www.young-enterprise.org.uk